Cynhelir y pumed Cinio Mawr ar ddydd Sul 2il Mehefin 2013. Mae’r Cinio Mawr yn gyfle i gymdogion a chymunedau ddod at ei gilydd am ddiwrnod, sydd wedi ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr a’i redeg gan Brosiect Eden. Mae’r syniad yn syml: llwyddo i gael cynifer o bobl â phosibl at ei gilydd ar draws y DU i gael cinio gyda chymdogion, am ychydig oriau o gymuned, cyfeillgarwch a hwyl. Ers ei gychwyn yn 2009, mae miloedd o ddigwyddiadau wedi eu cynnal bob blwyddyn ac mae nifer enfawr o wyth miliwn a hanner o bobl wedi cymryd rhan yn 2012, pan oedd y digwyddiad yn rhan o raglen dathliadau’r Jiwbilî Diemwnt gan Balas Buckingham.
Gellir cynnal Cinio Mawr o bob math a maint a gall eich digwyddiad fod yn y stryd, mewn gardd, parc lleol neu leoliad cymunedol – yn unrhyw le y gall cymdogion ddod at ei gilydd. Chi sydd i ddewis beth i'w wneud a sut i'w wneud! A does dim rhaid iddo gostio ffortiwn. Os bydd pawb yn cyfrannu bwyd neu addurniadau a gweithgareddau, dyna chi eich Cinio Mawr!
Awydd cymryd rhan? Rhowch eich enw i lawr i dderbyn pecyn Cinio Mawr AM DDIM, yn llawn gwybodaeth, awgrymiadau, cynghorion ac adnoddau i’ch helpu chi i gychwyn ar y gwaith. Ewch i www.thebiglunch.com neu ffoniwch 0845 850 8181.
Wrth i’r Cinio Mawr gyrraedd ei bumed flwyddyn, mae’r Cinio Mawr am ddathlu’r gwahaniaeth mae y mae pobl y Cinio Mawr wedi ei wneud i’w cymunedau drwy gynnal Gwobrau Cymunedol y Cinio Mawr.
Rydym am roi rhywbeth yn ôl i chi, drwy gydnabod gweithgareddau’r Cinio Mawr mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled y DU. Gall unrhyw gymuned sydd wedi cymryd rhan mewn Cinio Mawr dros y blynyddoedd enwebu ar gyfer y gwobrau, os ydynt wedi gweld gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned leol, ac os ydynt yn gallu ateb y meini prawf syml isod.
• Wedi cymryd rhan mewn Cinio Mawr
• Yn gallu disgrifio’r effaith gadarnhaol gafodd y Cinio Mawr ar eu cymuned neu stryd
• Yn barod i siarad gyda’r cyfryngau am eu profiadau
• Yn barod i deithio neu anfon cynrychiolydd i seremoni Wobrwyo (telir y costau i gyd) yn Llundain, lle gwahoddir enillwyr a gwestai i fynychu.
Y dyddiad cau yw DYDD GWENER 22ain CHWEFROR*. A fyddech cystal â llenwi ac anfon y ffurflen enwebiadau ar ein tudalen adnoddau i lawr lwytho ar y wefan, ynghyd â llun o’ch cymuned - ar ddiwrnod y Cinio Mawr neu yn ystod diwrnod gweithgarwch cymunedol arall - drwy’r post neu e-bost at y cyfeiriad ar y ffurflen. Neu gallwch ein ffonio ac fe lenwn ni ffurflen ar eich rhan.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r rhestr fer a rhannu’r straeon hyn ar ddechrau mis Mawrth. Pe byddech chi’n llwyddiannus, byddai angen dau gynrychiolydd ar gyfer cyhoeddusrwydd gyda’r wasg leol. Cysylltir â chi ymlaen llaw a chewch gefnogaeth gan gynrychiolydd rhanbarthol y Cinio Mawr.
Rydym yn gobeithio y bydd straeon fel eich un chi yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan yn y Cinio Mawr, oherwydd rydym ni’n gwybod bod gweithgareddau cymunedol gwych yn digwydd drwy’r sgyrsiau a gawn gyda phobl y Cinio Mawr.
Cewch eich ysbrydoli gan straeon pobl eraill ar y dudalen astudiaethau achos ar www.thebiglunch.com
Pob lwc gan bawb yn Nhîm y Cinio Mawr.
*Telerau ac amodau: Mae’n rhaid derbyn enwebiadau erbyn hanner nos 22ain Chwefror 2013 er mwyn eu hystyried ar gyfer Gwobrau Cymunedol y Cinio Mawr. Mae’n rhaid i chi fod wedi cymryd rhan mewn Cinio Mawr yn y DU cyn ceisio am y wobr. Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni chychwynnir trafodaeth. Os ydych o dan 18 oed, gwnewch yn siwr bod gennych ganiatâd rhiant neu warchodwr.
Yn cyfarfod o'r Cyngor Chwefror 19 2013 anrhegwyd y cyn Cynghorydd Tony Yendall Williams gyda llun a bathodyn cyn faer i werthfawrogi yr 20 mlynedd o wasanaeth a wnaeth cyn ymddeol yn diweddar